Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 26:65-71 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

65. Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, “Cabledd! Pa raid i ni wrth dystion bellach? Yr ydych newydd glywed ei gabledd.

66. Sut y barnwch chwi?” Atebasant, “Y mae'n haeddu marwolaeth.”

67. Yna poerasant ar ei wyneb a'i gernodio; trawodd rhai ef

68. a dweud, “Proffwyda i ni, Feseia! Pwy a'th drawodd?”

69. Yr oedd Pedr yn eistedd y tu allan yn y cyntedd. A daeth un o'r morynion ato a dweud, “Yr oeddit tithau hefyd gyda Iesu'r Galilead.”

70. Ond gwadodd ef o flaen pawb a dweud, “Nid wyf yn gwybod am beth yr wyt ti'n sôn.”

71. Ac wedi iddo fynd allan i'r porth, gwelodd morwyn arall ef a dweud wrth y rhai oedd yno, “Yr oedd hwn gyda Iesu'r Nasaread.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 26