Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 26:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Ond dweud yr oeddent, “Nid yn ystod yr ŵyl, rhag digwydd cynnwrf ymhlith y bobl.”

6. Pan oedd Iesu ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus,

7. daeth gwraig ato a chanddi ffiol alabastr o ennaint gwerthfawr, a thywalltodd yr ennaint ar ei ben tra oedd ef wrth bryd bwyd.

8. Pan welodd y disgyblion hyn, aethant yn ddig a dweud, “I ba beth y bu'r gwastraff hwn?

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 26