Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 25:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Y pryd hwnnw bydd teyrnas nefoedd yn debyg i ddeg o enethod a gymerodd eu lampau a mynd allan i gyfarfod â'r priodfab.

2. Yr oedd pump ohonynt yn ffôl a phump yn gall.

3. Cymerodd y rhai ffôl eu lampau ond heb gymryd olew gyda hwy,

4. ond cymerodd y rhai call, gyda'u lampau, olew mewn llestri.

5. Gan fod y priodfab yn hwyr yn dod aethant i gyd i hepian a chysgu.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 25