Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 22:41-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

41. Yr oedd y Phariseaid wedi ymgynnull, a gofynnodd Iesu iddynt,

42. “Beth yw eich barn chwi ynglŷn â'r Meseia? Mab pwy ydyw?” “Mab Dafydd,” meddent wrtho.

43. “Sut felly,” gofynnodd Iesu, “y mae Dafydd trwy'r Ysbryd yn ei alw'n Arglwydd, pan ddywed:

44. “ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i,“Eistedd ar fy neheulawnes imi osod dy elynion dan dy draed” ’?

45. “Os yw Dafydd felly yn ei alw'n Arglwydd, sut y mae'n fab iddo?”

46. Ac nid oedd neb yn gallu ateb gair iddo, ac o'r diwrnod hwnnw ni feiddiodd neb ei holi ddim mwy.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 22