Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 22:34-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. Clywodd y Phariseaid iddo roi taw ar y Sadwceaid, a daethant at ei gilydd.

35. Ac i roi prawf arno, gofynnodd un ohonynt, ac yntau'n athro'r Gyfraith,

36. “Athro, pa orchymyn yw'r mwyaf yn y Gyfraith?”

37. Dywedodd Iesu wrtho, “ ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl.’

38. Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysicaf.

39. Ac y mae'r ail yn debyg iddo: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 22