Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 22:29-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Atebodd Iesu hwy, “Yr ydych yn cyfeiliorni am nad ydych yn deall na'r Ysgrythurau na gallu Duw.

30. Oherwydd yn yr atgyfodiad ni phriodant ac ni phriodir hwy; y maent fel angylion yn y nef.

31. Ond ynglŷn ag atgyfodiad y meirw, onid ydych wedi darllen y gair a lefarwyd wrthych gan Dduw,

32. ‘Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf’? Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw.”

33. A phan glywodd y tyrfaoedd yr oeddent yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu.

34. Clywodd y Phariseaid iddo roi taw ar y Sadwceaid, a daethant at ei gilydd.

35. Ac i roi prawf arno, gofynnodd un ohonynt, ac yntau'n athro'r Gyfraith,

36. “Athro, pa orchymyn yw'r mwyaf yn y Gyfraith?”

37. Dywedodd Iesu wrtho, “ ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl.’

38. Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysicaf.

39. Ac y mae'r ail yn debyg iddo: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’

40. Ar y ddau orchymyn hyn y mae'r holl Gyfraith a'r proffwydi yn dibynnu.”

41. Yr oedd y Phariseaid wedi ymgynnull, a gofynnodd Iesu iddynt,

42. “Beth yw eich barn chwi ynglŷn â'r Meseia? Mab pwy ydyw?” “Mab Dafydd,” meddent wrtho.

43. “Sut felly,” gofynnodd Iesu, “y mae Dafydd trwy'r Ysbryd yn ei alw'n Arglwydd, pan ddywed:

44. “ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i,“Eistedd ar fy neheulawnes imi osod dy elynion dan dy draed” ’?

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 22