Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 22:24-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Gofynasant iddo, “Athro, dywedodd Moses, ‘Os bydd rhywun farw heb blant ganddo, y mae ei frawd i briodi'r wraig ac i godi plant i'w frawd.’

25. Yr oedd saith o frodyr yn ein plith; priododd y cyntaf, a bu farw, a chan nad oedd plant ganddo gadawodd ei wraig i'w frawd.

26. A'r un modd yr ail a'r trydydd, hyd at y seithfed.

27. Yn olaf oll bu farw'r wraig.

28. Yn yr atgyfodiad, felly, gwraig p'run o'r saith fydd hi? Oherwydd cafodd pob un hi'n wraig.”

29. Atebodd Iesu hwy, “Yr ydych yn cyfeiliorni am nad ydych yn deall na'r Ysgrythurau na gallu Duw.

30. Oherwydd yn yr atgyfodiad ni phriodant ac ni phriodir hwy; y maent fel angylion yn y nef.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 22