Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 22:17-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Dywed wrthym, felly, beth yw dy farn: a yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw?”

18. Deallodd Iesu eu dichell a dywedodd, “Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf, ragrithwyr?

19. Dangoswch i mi ddarn arian y dreth.” Daethant â darn arian iddo,

20. ac meddai ef wrthynt, “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?”

21. Dywedasant wrtho, “Cesar.” Yna meddai ef wrthynt, “Talwch felly bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.”

22. Pan glywsant hyn rhyfeddasant, a gadawsant ef a mynd ymaith.

23. Yr un diwrnod daeth ato Sadwceaid yn dweud nad oes dim atgyfodiad.

24. Gofynasant iddo, “Athro, dywedodd Moses, ‘Os bydd rhywun farw heb blant ganddo, y mae ei frawd i briodi'r wraig ac i godi plant i'w frawd.’

25. Yr oedd saith o frodyr yn ein plith; priododd y cyntaf, a bu farw, a chan nad oedd plant ganddo gadawodd ei wraig i'w frawd.

26. A'r un modd yr ail a'r trydydd, hyd at y seithfed.

27. Yn olaf oll bu farw'r wraig.

28. Yn yr atgyfodiad, felly, gwraig p'run o'r saith fydd hi? Oherwydd cafodd pob un hi'n wraig.”

29. Atebodd Iesu hwy, “Yr ydych yn cyfeiliorni am nad ydych yn deall na'r Ysgrythurau na gallu Duw.

30. Oherwydd yn yr atgyfodiad ni phriodant ac ni phriodir hwy; y maent fel angylion yn y nef.

31. Ond ynglŷn ag atgyfodiad y meirw, onid ydych wedi darllen y gair a lefarwyd wrthych gan Dduw,

32. ‘Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf’? Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw.”

33. A phan glywodd y tyrfaoedd yr oeddent yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu.

34. Clywodd y Phariseaid iddo roi taw ar y Sadwceaid, a daethant at ei gilydd.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 22