Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 2:21-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Yna cododd Joseff, a chymerodd y plentyn a'i fam gydag ef, a mynd i wlad Israel.

22. Ond wedi clywed bod Archelaus yn teyrnasu dros Jwdea yn lle ei dad Herod, daeth ofn ar Joseff fynd yno. Cafodd ei rybuddio mewn breuddwyd, ac ymadawodd i barthau Galilea,

23. ac ymsefydlodd mewn tref a elwid Nasareth, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwydi: “Gelwir ef yn Nasaread.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 2