Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 18:32-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Yna galwodd ei feistr ef ato, ac meddai, ‘Y gwas drwg, fe faddeuais i yr holl ddyled honno i ti, am iti grefu arnaf.

33. Oni ddylit tithau fod wedi trugarhau wrth dy gydwas, fel y gwneuthum i wrthyt ti?’

34. Ac yn ei ddicter traddododd ei feistr ef i'r poenydwyr hyd nes y talai'r ddyled yn llawn.

35. Felly hefyd y gwna fy Nhad nefol i chwithau os na faddeuwch bob un i'w gyfaill o'ch calon.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 18