Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 15:33-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Dywedodd y disgyblion wrtho, “O ble, mewn lle anial, y cawn ddigon o fara i fwydo tyrfa mor fawr?”

34. Gofynnodd Iesu iddynt, “Pa sawl torth sydd gennych?” “Saith,” meddent hwythau, “ac ychydig bysgod bychain.”

35. Gorchmynnodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear.

36. Yna cymerodd y saith torth a'r pysgod, ac wedi diolch fe'u torrodd a'u rhoi i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r tyrfaoedd.

37. Bwytasant oll a chael digon, a chodasant lond saith cawell o'r tameidiau oedd dros ben.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 15