Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 14:29-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Meddai Iesu, “Tyrd.” Disgynnodd Pedr o'r cwch a cherddodd ar y tonnau, a daeth at Iesu.

30. Ond pan welodd rym y gwynt brawychodd, ac wrth ddechrau suddo gwaeddodd, “Arglwydd, achub fi.”

31. Estynnodd Iesu ei law ar unwaith a gafael ynddo gan ddweud, “Ti o ychydig ffydd, pam y petrusaist?”

32. Ac wedi iddynt ddringo i'r cwch, gostegodd y gwynt.

33. Yna addolodd y rhai oedd yn y cwch ef, gan ddweud, “Yn wir, Mab Duw wyt ti.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 14