21. Ac yr oedd y rhai oedd yn bwyta tua phum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.
22. Yna'n ddi-oed gwnaeth i'r disgyblion fynd i'r cwch a hwylio o'i flaen i'r ochr draw, tra byddai ef yn gollwng y tyrfaoedd.
23. Wedi eu gollwng aeth i fyny'r mynydd o'r neilltu i weddïo, a phan aeth hi'n hwyr yr oedd yno ar ei ben ei hun.
24. Yr oedd y cwch eisoes gryn bellter oddi wrth y tir, ac mewn helbul gan y tonnau, oherwydd yr oedd y gwynt yn ei erbyn.
25. Rhwng tri a chwech o'r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y môr.
26. Pan welodd y disgyblion ef yn cerdded ar y môr, dychrynwyd hwy nes dweud, “Drychiolaeth yw”, a gweiddi gan ofn.
27. Ond ar unwaith siaradodd Iesu â hwy. “Codwch eich calon,” meddai, “myfi yw; peidiwch ag ofni.”
28. Atebodd Pedr ef, “Arglwydd, os tydi yw, gorchymyn i mi ddod atat ar y tonnau.”
29. Meddai Iesu, “Tyrd.” Disgynnodd Pedr o'r cwch a cherddodd ar y tonnau, a daeth at Iesu.
30. Ond pan welodd rym y gwynt brawychodd, ac wrth ddechrau suddo gwaeddodd, “Arglwydd, achub fi.”
31. Estynnodd Iesu ei law ar unwaith a gafael ynddo gan ddweud, “Ti o ychydig ffydd, pam y petrusaist?”
32. Ac wedi iddynt ddringo i'r cwch, gostegodd y gwynt.
33. Yna addolodd y rhai oedd yn y cwch ef, gan ddweud, “Yn wir, Mab Duw wyt ti.”
34. Wedi croesi'r môr daethant i dir yn Genesaret.
35. Adnabu pobl y lle hwnnw ef, ac anfonasant i'r holl gymdogaeth honno, a daethant â'r cleifion i gyd ato,
36. ac erfyn arno am iddynt gael yn unig gyffwrdd ag ymyl ei fantell. A llwyr iachawyd pawb a gyffyrddodd ag ef.