Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 13:43-58 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

43. Yna bydd y rhai cyfiawn yn disgleirio fel yr haul yn nheyrnas eu Tad. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.

44. “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i drysor wedi ei guddio mewn maes; pan ddaeth rhywun o hyd iddo, fe'i cuddiodd, ac yn ei lawenydd y mae'n mynd ac yn gwerthu'r cwbl sydd ganddo, ac yn prynu'r maes hwnnw.

45. “Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i fasnachwr sy'n chwilio am berlau gwych.

46. Wedi iddo ddarganfod un perl gwerthfawr, aeth i ffwrdd a gwerthu'r cwbl oedd ganddo, a'i brynu.

47. “Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i rwyd a fwriwyd i'r môr ac a ddaliodd bysgod o bob math.

48. Pan oedd yn llawn, tynnodd dynion hi i'r lan ac eistedd i lawr a chasglu'r rhai da i lestri a thaflu'r rhai gwael i ffwrdd.

49. Felly y bydd yn niwedd amser; bydd yr angylion yn mynd allan ac yn gwahanu'r drwg o blith y cyfiawn,

50. ac yn eu taflu i'r ffwrnais danllyd; bydd yno wylo a rhincian dannedd.

51. “A ydych wedi deall yr holl bethau hyn?” Dywedasant wrtho, “Ydym.”

52. “Am hynny,” meddai ef wrthynt, “y mae pob ysgrifennydd a ddaeth yn ddisgybl yn nheyrnas nefoedd yn debyg i berchen tŷ sydd yn dwyn allan o'i drysorfa bethau newydd a hen.”

53. Pan orffennodd Iesu'r damhegion hyn, aeth oddi yno.

54. Ac wedi dod i fro ei febyd, yr oedd yn dysgu yn eu synagog hwy, nes iddynt synnu a dweud, “O ble y cafodd hwn y ddoethineb hon a'r gweithredoedd nerthol hyn?

55. Onid mab y saer yw hwn? Onid Mair yw enw ei fam ef, ac Iago a Joseff a Simon a Jwdas yn frodyr iddo?

56. Ac onid yw ei chwiorydd i gyd yma gyda ni? O ble felly y cafodd hwn yr holl bethau hyn?”

57. Yr oedd ef yn peri tramgwydd iddynt. Dywedodd Iesu wrthynt, “Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei fro ei hun ac yn ei gartref.”

58. Ac ni wnaeth lawer o wyrthiau yno o achos eu hanghrediniaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 13