Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 11:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Hyd at Ioan y proffwydodd yr holl broffwydi a'r Gyfraith;

14. ac os mynnwch dderbyn hynny, ef yw Elias sydd ar ddod.

15. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.

16. “Â phwy y cymharaf y genhedlaeth hon? Y mae'n debyg i blant yn eistedd yn y marchnadoedd ac yn galw ar ei gilydd:

17. “ ‘Canasom ffliwt i chwi, ac ni ddawnsiasoch;canasom alarnad, ac nid wylasoch.’

18. “Oherwydd daeth Ioan, un nad yw'n bwyta nac yn yfed, ac y maent yn dweud, ‘Y mae cythraul ynddo.’

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 11