5. yr oedd Salmon yn dad i Boas, a Rahab yn fam iddo, Boas yn dad i Obed, a Ruth yn fam iddo, Obed yn dad i Jesse,
6. a Jesse yn dad i'r Brenin Dafydd.Yr oedd Dafydd yn dad i Solomon, a gwraig Ureia yn fam iddo,
7. yr oedd Solomon yn dad i Rehoboam, Rehoboam yn dad i Abeia, ac Abeia'n dad i Asa.
8. Yr oedd Asa'n dad i Jehosaffat, Jehosaffat i Joram, Joram i Usseia,
9. Usseia i Jotham, Jotham i Ahas, Ahas i Heseceia,
10. Heseceia i Manasse, Manasse i Amon, ac Amon i Joseia.
11. Yr oedd Joseia yn dad i Jechoneia a'i frodyr yng nghyfnod y gaethglud i Fabilon.
12. Ar ôl y gaethglud i Fabilon, yr oedd Jechoneia yn dad i Salathiel, Salathiel i Sorobabel,
13. Sorobabel i Abiwd, Abiwd i Eliacim, Eliacim i Asor,
14. Asor i Sadoc, Sadoc i Achim, Achim i Eliwd,
15. Eliwd i Eleasar, Eleasar i Mathan, a Mathan i Jacob.
16. Yr oedd Jacob yn dad i Joseff, gŵr Mair, a hi a roddodd enedigaeth i Iesu, a elwid y Meseia.
17. Felly, pedair ar ddeg yw cyfanrif y cenedlaethau o Abraham hyd Ddafydd, a phedair ar ddeg o Ddafydd hyd y gaethglud i Fabilon, a phedair ar ddeg hefyd o'r gaethglud i Fabilon hyd y Meseia.
18. Fel hyn y bu genedigaeth Iesu Grist. Pan oedd Mair ei fam wedi ei dyweddïo i Joseff, cyn iddynt ddod at ei gilydd fe gafwyd ei bod hi'n feichiog o'r Ysbryd Glân.
19. A chan ei fod yn ddyn cyfiawn, ond heb ddymuno ei chywilyddio'n gyhoeddus, penderfynodd Joseff, ei gŵr, ei gollwng ymaith yn ddirgel.