Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 1:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Bydd yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau.”

22. A digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd:

23. “Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab,a gelwir ef Immanuel”,hynny yw, o'i gyfieithu, “Y mae Duw gyda ni”.

24. A phan ddeffrôdd Joseff o'i gwsg, gwnaeth fel yr oedd angel yr Arglwydd wedi gorchymyn, a chymryd Mair yn wraig iddo.

25. Ond ni chafodd gyfathrach â hi hyd nes iddi esgor ar fab; a galwodd ef Iesu.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 1