Hen Destament

Testament Newydd

Marc 7:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. yn ofer y maent yn fy addoli,gan ddysgu gorchmynion dynol fel athrawiaethau.’

8. “Yr ydych yn anwybyddu gorchymyn Duw ac yn glynu wrth draddodiad dynol.”

9. Meddai hefyd wrthynt, “Rhai da ydych chwi am wrthod gorchymyn Duw er mwyn cadarnhau eich traddodiad eich hunain.

10. Oherwydd dywedodd Moses, ‘Anrhydedda dy dad a'th fam’, a, ‘Bydded farw'n gelain y sawl a felltithia ei dad neu ei fam.’

11. Ond yr ydych chwi'n dweud, ‘Os dywed rhywun wrth ei dad neu ei fam, “Corban (hynny yw, Offrwm i Dduw) yw beth bynnag y gallasit ei dderbyn yn gymorth gennyf fi”,’

12. ni adewch iddo mwyach wneud dim i'w dad neu i'w fam.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 7