Hen Destament

Testament Newydd

Marc 5:25-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Ac yr oedd yno wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd.

26. Yr oedd wedi dioddef yn enbyd dan driniaeth llawer o feddygon, ac wedi gwario'r cwbl oedd ganddi, a heb gael dim lles ond yn hytrach mynd yn waeth.

27. Yr oedd hon wedi clywed am Iesu, a daeth o'r tu ôl iddo yn y dyrfa a chyffwrdd â'i fantell,

28. oherwydd yr oedd hi wedi dweud, “Os cyffyrddaf hyd yn oed â'i ddillad ef, fe gaf fy iacháu.”

29. A sychodd llif ei gwaed hi yn y fan, a daeth hithau i wybod yn ei chorff ei bod wedi ei hiacháu o'i chlwyf.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 5