31. A daeth ei fam ef a'i frodyr, a chan sefyll y tu allan anfonasant ato i'w alw.
32. Yr oedd tyrfa'n eistedd o'i amgylch, ac meddent wrtho, “Dacw dy fam a'th frodyr a'th chwiorydd y tu allan yn dy geisio.”
33. Atebodd hwy, “Pwy yw fy mam i a'm brodyr?”