Hen Destament

Testament Newydd

Marc 2:6-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ac yr oedd rhai o'r ysgrifenyddion yn eistedd yno ac yn meddwl ynddynt eu hunain,

7. “Pam y mae hwn yn siarad fel hyn? Y mae'n cablu. Pwy ond Duw yn unig a all faddau pechodau?”

8. Deallodd Iesu ar unwaith yn ei ysbryd eu bod yn meddwl felly ynddynt eu hunain, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn meddwl pethau fel hyn ynoch eich hunain?

9. P'run sydd hawsaf, ai dweud wrth y claf, ‘Maddeuwyd dy bechodau’, ai ynteu dweud, ‘Cod, a chymer dy fatras a cherdda’?

10. Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear”—meddai wrth y claf,

11. “Dyma fi'n dweud wrthyt, cod, a chymer dy fatras a dos adref.”

12. A chododd y dyn, cymryd ei fatras ar ei union a mynd allan yn eu gŵydd hwy oll, nes bod pawb yn synnu ac yn gogoneddu Duw gan ddweud, “Ni welsom erioed y fath beth.”

13. Aeth allan eto i lan y môr; ac yr oedd yr holl dyrfa'n dod ato, ac yntau'n eu dysgu hwy.

14. Ac wrth fynd heibio gwelodd Lefi fab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, “Canlyn fi.” Cododd yntau a chanlynodd ef.

15. Ac yr oedd wrth bryd bwyd yn ei dŷ, ac yr oedd llawer o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid yn cydfwyta gyda Iesu a'i ddisgyblion—oherwydd yr oedd llawer ohonynt yn ei ganlyn ef.

16. A phan welodd yr ysgrifenyddion o blith y Phariseaid ei fod yn bwyta gyda'r pechaduriaid a'r casglwyr trethi, dywedasant wrth ei ddisgyblion, “Pam y mae ef yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 2