Hen Destament

Testament Newydd

Marc 15:32-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Disgynned y Meseia, Brenin Israel, yn awr oddi ar y groes, er mwyn inni weld a chredu.” Yr oedd hyd yn oed y rhai a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio.

33. A phan ddaeth yn hanner dydd, bu tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn.

34. Ac am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, “Eloï, Eloï, lema sabachthani”, hynny yw, o'i gyfieithu, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?”

35. O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll gerllaw, “Clywch, y mae'n galw ar Elias.”

36. Rhedodd rhywun a llenwi ysbwng â gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed. “Gadewch inni weld,” meddai, “a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr.”

37. Ond rhoes Iesu lef uchel, a bu farw.

38. A rhwygwyd llen y deml yn ddwy o'r pen i'r gwaelod.

39. Pan welodd y canwriad, a oedd yn sefyll gyferbyn ag ef, mai gyda gwaedd felly y bu farw, dywedodd, “Yn wir, Mab Duw oedd y dyn hwn.”

40. Yr oedd gwragedd hefyd yn edrych o hirbell; yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago Fychan a Joses, a Salome,

41. gwragedd a fu'n ei ganlyn ac yn gweini arno pan oedd yng Ngalilea, a llawer o wragedd eraill oedd wedi dod i fyny gydag ef i Jerwsalem.

42. Yr oedd hi eisoes yn hwyr, a chan ei bod yn ddydd Paratoad, hynny yw, y dydd cyn y Saboth,

43. daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr uchel ei barch a oedd yntau'n disgwyl am deyrnas Dduw, a mentrodd fynd i mewn at Pilat a gofyn am gorff Iesu.

44. Rhyfeddodd Pilat ei fod eisoes wedi marw, a galwodd y canwriad ato a gofyn iddo a oedd wedi marw ers meitin.

45. Ac wedi cael gwybod gan y canwriad, rhoddodd y corff i Joseff.

46. Prynodd yntau liain, ac wedi ei dynnu ef i lawr, a'i amdói yn y lliain, gosododd ef mewn bedd oedd wedi ei naddu o'r graig; a threiglodd faen ar ddrws y bedd.

47. Ac yr oedd Mair Magdalen a Mair mam Joses yn edrych ym mhle y gosodwyd ef.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 15