20. Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y porffor oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun. Yna aethant ag ef allan i'w groeshoelio.
21. Gorfodasant un oedd yn mynd heibio ar ei ffordd o'r wlad, Simon o Cyrene, tad Alexander a Rwffus, i gario ei groes ef.
22. Daethant ag ef i'r lle a elwir Golgotha, hynny yw, o'i gyfieithu, “Lle Penglog”.
23. Cynigiasant iddo win â myrr ynddo, ond ni chymerodd ef.
24. A chroeshoeliasant ef,a rhanasant ei ddillad,gan fwrw coelbren arnynt i benderfynu beth a gâi pob un.
25. Naw o'r gloch y bore oedd hi pan groeshoeliasant ef.
26. Ac yr oedd arysgrif y cyhuddiad yn ei erbyn yn dweud: “Brenin yr Iddewon.”
27. A chydag ef croeshoeliasant ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith iddo.
29. Yr oedd y rhai oedd yn mynd heibio yn ei gablu ef, gan ysgwyd eu pennau a dweud, “Oho, ti sydd am fwrw'r deml i lawr a'i hadeiladu mewn tridiau,
30. disgyn oddi ar y groes ac achub dy hun.”
31. A'r un modd yr oedd y prif offeiriaid hefyd, ynghyd â'r ysgrifenyddion, yn ei watwar wrth ei gilydd, ac yn dweud, “Fe achubodd eraill; ni all ei achub ei hun.
32. Disgynned y Meseia, Brenin Israel, yn awr oddi ar y groes, er mwyn inni weld a chredu.” Yr oedd hyd yn oed y rhai a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio.
33. A phan ddaeth yn hanner dydd, bu tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn.
34. Ac am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, “Eloï, Eloï, lema sabachthani”, hynny yw, o'i gyfieithu, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?”