Hen Destament

Testament Newydd

Marc 15:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Holodd Pilat ef: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd yntau ef: “Ti sy'n dweud hynny.”

3. Ac yr oedd y prif offeiriaid yn dwyn llawer o gyhuddiadau yn ei erbyn.

4. Holodd Pilat ef wedyn: “Onid atebi ddim? Edrych faint o gyhuddiadau y maent yn eu dwyn yn dy erbyn.”

5. Ond nid atebodd Iesu ddim mwy, er syndod i Pilat.

6. Ar yr ŵyl yr oedd Pilat yn arfer rhyddhau iddynt un carcharor y gofynnent amdano.

7. Ac yr oedd y dyn a elwid Barabbas yn y carchar gyda'r gwrthryfelwyr hynny oedd wedi llofruddio yn ystod y gwrthryfel.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 15