14. Meddai Pilat wrthynt, “Ond pa ddrwg a wnaeth ef?” Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, “Croeshoelia ef.”
15. A chan ei fod yn awyddus i fodloni'r dyrfa, rhyddhaodd Pilat Barabbas iddynt, a thraddododd Iesu, ar ôl ei fflangellu, i'w groeshoelio.
16. Aeth y milwyr ag ef ymaith i mewn i'r cyntedd, hynny yw, i'r Praetoriwm, a galw ynghyd yr holl fintai.
17. A gwisgasant ef â phorffor, a phlethu coron ddrain a'i gosod am ei ben.
18. A dechreusant ei gyfarch: “Henffych well, Frenin yr Iddewon!”
19. Curasant ei ben â gwialen, a phoeri arno, a phlygu eu gliniau ac ymgrymu iddo.
20. Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y porffor oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun. Yna aethant ag ef allan i'w groeshoelio.
21. Gorfodasant un oedd yn mynd heibio ar ei ffordd o'r wlad, Simon o Cyrene, tad Alexander a Rwffus, i gario ei groes ef.
22. Daethant ag ef i'r lle a elwir Golgotha, hynny yw, o'i gyfieithu, “Lle Penglog”.
23. Cynigiasant iddo win â myrr ynddo, ond ni chymerodd ef.
24. A chroeshoeliasant ef,a rhanasant ei ddillad,gan fwrw coelbren arnynt i benderfynu beth a gâi pob un.
25. Naw o'r gloch y bore oedd hi pan groeshoeliasant ef.
26. Ac yr oedd arysgrif y cyhuddiad yn ei erbyn yn dweud: “Brenin yr Iddewon.”
27. A chydag ef croeshoeliasant ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith iddo.