Hen Destament

Testament Newydd

Marc 14:69-72 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

69. Gwelodd y forwyn ef, a dechreuodd ddweud wedyn wrth y rhai oedd yn sefyll yn ymyl, “Y mae hwn yn un ohonynt.”

70. Gwadodd yntau drachefn. Ymhen ychydig, dyma'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl yn dweud wrth Pedr, “Yr wyt yn wir yn un ohonynt, achos Galilead wyt ti.”

71. Dechreuodd yntau regi a thyngu: “Nid wyf yn adnabod y dyn hwn yr ydych yn sôn amdano.”

72. Ac yna canodd y ceiliog yr ail waith. Cofiodd Pedr ymadrodd Iesu wrtho, fel y dywedodd, “Cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, fe'm gwedi i deirgwaith.” A thorrodd i wylo.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 14