Hen Destament

Testament Newydd

Marc 13:33-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Gwyliwch, byddwch effro; oherwydd ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser.

34. Y mae fel dyn a aeth oddi cartref, gan adael ei dŷ a rhoi awdurdod i'w weision, i bob un ei waith, a gorchymyn i'r porthor wylio.

35. Byddwch wyliadwrus gan hynny—oherwydd ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, ai gyda'r hwyr, ai ar hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore—

36. rhag ofn iddo ddod yn ddisymwth a'ch cael chwi'n cysgu.

37. A'r hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych chwi, yr wyf yn ei ddweud wrth bawb: byddwch wyliadwrus.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 13