Hen Destament

Testament Newydd

Marc 13:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Bradycha brawd ei frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn, a chyfyd plant yn erbyn eu rhieni a pheri eu lladd.

13. A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i; ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub.

14. “Ond pan welwch ‘y ffieiddbeth diffeithiol’ yn sefyll lle na ddylai fod” (dealled y darllenydd) “yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd.

15. Pwy bynnag sydd ar ben y tŷ, peidied â dod i lawr i fynd i mewn i gipio dim o'i dŷ;

16. a phwy bynnag sydd yn y cae, peidied â throi yn ei ôl i gymryd ei fantell.

17. Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny!

Darllenwch bennod gyflawn Marc 13