Hen Destament

Testament Newydd

Marc 13:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wrth iddo fynd allan o'r deml, dyma un o'i ddisgyblion yn dweud wrtho, “Edrych, Athro, y fath feini enfawr a'r fath adeiladau gwych!”

2. A dywedodd Iesu wrtho, “A weli di'r adeiladau mawr yma? Ni adewir yma faen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr.”

3. Fel yr oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd gyferbyn â'r deml, gofynnodd Pedr ac Iago ac Ioan ac Andreas iddo, o'r neilltu,

4. “Dywed wrthym pa bryd y bydd hyn, a beth fydd yr arwydd pan fydd hyn oll ar ddod i ben?”

5. A dechreuodd Iesu ddweud wrthynt, “Gwyliwch na fydd i neb eich twyllo.

6. Fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, ‘Myfi yw’, ac fe dwyllant lawer.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 13