Hen Destament

Testament Newydd

Marc 11:20-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Yn y bore, wrth fynd heibio, gwelsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd.

21. Cofiodd Pedr, a dywedodd wrtho, “Rabbi, edrych, y mae'r ffigysbren a felltithiaist wedi crino.”

22. Atebodd Iesu hwy: “Bydded gennych ffydd yn Nuw;

23. yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag a ddywed wrth y mynydd hwn, ‘Coder di a bwrier di i'r môr’, heb amau yn ei galon, ond credu y digwydd yr hyn a ddywed, fe'i rhoddir iddo.

24. Gan hynny rwy'n dweud wrthych, beth bynnag oll yr ydych yn gweddïo ac yn gofyn amdano, credwch eich bod wedi ei dderbyn, ac fe'i rhoddir i chwi.

25. A phan fyddwch ar eich traed yn gweddïo, os bydd gennych rywbeth yn erbyn unrhyw un, maddeuwch iddynt, er mwyn i'ch Tad sydd yn y nefoedd faddau i chwithau eich camweddau.”

27. Daethant drachefn i Jerwsalem. Ac wrth ei fod yn cerdded yn y deml, dyma'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion a'r henuriaid yn dod ato,

28. ac meddent wrtho, “Trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn i wneud y pethau hyn?”

29. Dywedodd Iesu wrthynt, “Fe ofynnaf un peth i chwi; atebwch fi, ac fe ddywedaf wrthych trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.

30. Bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o'r byd daearol? Atebwch fi.”

31. Dechreusant ddadlau â'i gilydd a dweud, “Os dywedwn, ‘O'r nef’, fe ddywed, ‘Pam, ynteu, na chredasoch ef?’

32. Eithr a ddywedwn, ‘O'r byd daearol’?”—yr oedd arnynt ofn y dyrfa, oherwydd yr oedd pawb yn dal fod Ioan yn broffwyd mewn gwirionedd.

33. Atebasant Iesu, “Ni wyddom ni ddim.” Ac meddai Iesu wrthynt, “Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 11