1. Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem, at Bethffage a Bethania, ger Mynydd yr Olewydd, anfonodd ddau o'i ddisgyblion,
2. ac meddai wrthynt, “Ewch i'r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn syth wrth ichwi fynd i mewn iddo, cewch ebol wedi ei rwymo, un nad oes neb wedi bod ar ei gefn erioed. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma.
3. Ac os dywed rhywun wrthych, ‘Pam yr ydych yn gwneud hyn?’ dywedwch, ‘Y mae ar y Meistr ei angen, a bydd yn ei anfon yn ôl yma yn union deg.’ ”