Hen Destament

Testament Newydd

Luc 8:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. “Ni bydd neb yn cynnau cannwyll ac yn ei chuddio â llestr neu'n ei dodi dan y gwely. Nage, ar ganhwyllbren y dodir hi, er mwyn i'r rhai sy'n dod i mewn weld ei goleuni.

17. Oherwydd nid oes dim yn guddiedig na ddaw'n amlwg, na dim dan gêl na cheir ei wybod ac na ddaw i'r amlwg.

18. Ystyriwch gan hynny sut yr ydych yn gwrando, oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, ac oddi ar y sawl nad oes ganddo y cymerir hyd yn oed hynny y mae ef yn tybio ei fod ganddo.”

19. Daeth ei fam a'i frodyr i edrych amdano, ond ni allent gyrraedd ato o achos y dyrfa.

20. Hysbyswyd ef, “Y mae dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan ac yn dymuno dy weld.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 8