Hen Destament

Testament Newydd

Luc 7:40-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

40. Atebodd Iesu ef, “Simon, y mae gennyf rywbeth i'w ddweud wrthyt.” Meddai yntau, “Dywed, Athro.”

41. “Yr oedd gan fenthyciwr arian ddau ddyledwr,” meddai Iesu. “Pum cant o ddarnau arian oedd dyled un, a hanner cant oedd ar y llall.

42. Gan nad oeddent yn gallu talu'n ôl, diddymodd y benthyciwr eu dyled i'r ddau. P'run ohonynt, gan hynny, fydd yn ei garu fwyaf?”

43. Atebodd Simon, “Fe dybiwn i mai'r un y diddymwyd y ddyled fwyaf iddo.” “Bernaist yn gywir,” meddai ef wrtho.

44. A chan droi at y wraig, meddai wrth Simon, “A weli di'r wraig hon? Deuthum i mewn i'th dŷ, ac ni roddaist ddŵr imi at fy nhraed; ond hon, gwlychodd hi fy nhraed â'i dagrau a'u sychu â'i gwallt.

45. Ni roddaist gusan imi; ond nid yw hon wedi peidio â chusanu fy nhraed byth er pan ddeuthum i mewn.

46. Nid iraist fy mhen ag olew; ond irodd hon fy nhraed ag ennaint.

47. Am hynny rwy'n dweud wrthyt, y mae ei phechodau, er cynifer ydynt, wedi eu maddau; oherwydd y mae ei chariad yn fawr. Os mai ychydig a faddeuwyd i rywun, ychydig yw ei gariad.”

48. Ac wrth y wraig meddai, “Y mae dy bechodau wedi eu maddau.”

49. Yna dechreuodd y gwesteion eraill ddweud wrthynt eu hunain, “Pwy yw hwn sydd hyd yn oed yn maddau pechodau?”

50. Ac meddai ef wrth y wraig, “Y mae dy ffydd wedi dy achub di; dos mewn tangnefedd.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 7