24. Wedi i negesyddion Ioan ymadael, dechreuodd Iesu sôn am Ioan wrth y tyrfaoedd. “Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt?
25. Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai rhywun wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Ym mhlasau brenhinoedd y mae gweld dynion moethus mewn gwisgoedd ysblennydd.
26. Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai proffwyd? Ie, meddaf wrthych, a mwy na phroffwyd.
27. Dyma'r un y mae'n ysgrifenedig amdano:“ ‘Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen,i baratoi'r ffordd ar dy gyfer.’
28. “Rwy'n dweud wrthych, nid oes ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan; ac eto y mae'r lleiaf yn nheyrnas Dduw yn fwy nag ef.”
29. (A chydnabod cyfiawnder Duw a wnaeth yr holl bobl a glywodd, a'r casglwyr trethi hefyd, oherwydd yr oeddent wedi derbyn bedydd Ioan;
30. ond troi heibio fwriad Duw ar eu cyfer a wnaeth y Phariseaid ac athrawon y Gyfraith, oherwydd yr oeddent hwy wedi gwrthod cael eu bedyddio ganddo.)
31. “Â phwy gan hynny y cymharaf bobl y genhedlaeth hon? I bwy y maent yn debyg?
32. Y maent yn debyg i'r plant sy'n eistedd yn y farchnad ac yn galw ar ei gilydd fel hyn:“ ‘Canasom ffliwt i chwi, ac ni ddawnsiasoch;canasom alarnad, ac nid wylasoch.’