8. Ond yr oedd ef yn deall eu meddyliau, ac meddai wrth y dyn â'r llaw ddiffrwyth, “Cod a saf yn y canol”; a chododd yntau ar ei draed.
9. Meddai Iesu wrthynt, “Yr wyf yn gofyn i chwi, a yw'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth, ynteu gwneud drwg, achub bywyd, ynteu ei ddifetha?”
10. Yna edrychodd o gwmpas arnynt oll a dweud wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn iach.
11. Ond llanwyd hwy â gorffwylledd, a dechreusant drafod â'i gilydd beth i'w wneud i Iesu.
12. Un o'r dyddiau hynny aeth allan i'r mynydd i weddïo, a bu ar hyd y nos yn gweddïo ar Dduw.
13. Pan ddaeth hi'n ddydd galwodd ei ddisgyblion ato. Dewisodd o'u plith ddeuddeg, a rhoi'r enw apostolion iddynt:
14. Simon, a enwodd hefyd yn Pedr; Andreas ei frawd; Iago, Ioan, Philip a Bartholomeus;
15. Mathew, Thomas, Iago fab Alffeus, a Simon, a elwid y Selot;
16. Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot, a droes yn fradwr.
17. Aeth i lawr gyda hwy a sefyll ar dir gwastad, gyda thyrfa fawr o'i ddisgyblion, a llu niferus o bobl o Jwdea gyfan a Jerwsalem ac o arfordir Tyrus a Sidon, a oedd wedi dod i wrando arno ac i'w hiacháu o'u clefydau;
18. yr oedd y rhai a flinid gan ysbrydion aflan hefyd yn cael eu gwella.