Hen Destament

Testament Newydd

Luc 6:43-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

43. “Oherwydd nid yw coeden dda yn dwyn ffrwyth gwael, ac nid yw coeden wael chwaith yn dwyn ffrwyth da.

44. Wrth ei ffrwyth ei hun y mae pob coeden yn cael ei hadnabod; nid oddi ar ddrain y mae casglu ffigys, ac nid oddi ar lwyni mieri y mae tynnu grawnwin.

45. Y mae'r dyn da yn dwyn daioni o drysor daionus ei galon, a'r dyn drwg yn dwyn drygioni o'i ddrygioni; oherwydd yn ôl yr hyn sy'n llenwi ei galon y mae ei enau yn llefaru.

46. “Pam yr ydych yn galw ‘Arglwydd, Arglwydd’ arnaf, a heb wneud yr hyn yr wyf yn ei ofyn?

47. Pob un sy'n dod ataf ac yn gwrando ar fy ngeiriau ac yn eu gwneud, dangosaf i chwi i bwy y mae'n debyg:

48. y mae'n debyg i ddyn a adeiladodd dŷ a chloddio'n ddwfn a gosod sylfaen ar y graig; a phan ddaeth llifogydd, ffrwydrodd yr afon yn erbyn y tŷ hwnnw, ond ni allodd ei syflyd, gan iddo gael ei adeiladu yn gadarn.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 6