Hen Destament

Testament Newydd

Luc 6:36-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Byddwch yn drugarog fel y mae eich Tad yn drugarog.

37. “Peidiwch â barnu, ac ni chewch eich barnu. Peidiwch â chondemnio, ac ni chewch eich condemnio. Maddeuwch, ac fe faddeuir i chwi.

38. Rhowch, ac fe roir i chwi; rhoir yn eich côl fesur da, wedi ei wasgu i lawr a'i ysgwyd ynghyd nes gorlifo; oherwydd â'r mesur y rhowch y rhoir i chwi yn ôl.”

39. Adroddodd hefyd ddameg wrthynt: “A fedr y dall arwain y dall? Onid syrthio i bydew a wna'r ddau?

40. Nid yw disgybl yn well na'i athro; ond wedi ei lwyr gymhwyso bydd pob un fel ei athro.

41. Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun?

42. Sut y gelli ddweud wrth dy gyfaill, ‘Gyfaill, gad imi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad di’, a thi dy hun heb weld y trawst sydd yn dy lygad di? Ragrithiwr, yn gyntaf tyn y trawst allan o'th lygad dy hun, ac yna fe weli yn ddigon eglur i dynnu'r brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill.

43. “Oherwydd nid yw coeden dda yn dwyn ffrwyth gwael, ac nid yw coeden wael chwaith yn dwyn ffrwyth da.

44. Wrth ei ffrwyth ei hun y mae pob coeden yn cael ei hadnabod; nid oddi ar ddrain y mae casglu ffigys, ac nid oddi ar lwyni mieri y mae tynnu grawnwin.

45. Y mae'r dyn da yn dwyn daioni o drysor daionus ei galon, a'r dyn drwg yn dwyn drygioni o'i ddrygioni; oherwydd yn ôl yr hyn sy'n llenwi ei galon y mae ei enau yn llefaru.

46. “Pam yr ydych yn galw ‘Arglwydd, Arglwydd’ arnaf, a heb wneud yr hyn yr wyf yn ei ofyn?

47. Pob un sy'n dod ataf ac yn gwrando ar fy ngeiriau ac yn eu gwneud, dangosaf i chwi i bwy y mae'n debyg:

Darllenwch bennod gyflawn Luc 6