31. Fel y dymunwch i eraill wneud i chwi, gwnewch chwithau yr un fath iddynt hwy.
32. Os ydych yn caru'r rhai sy'n eich caru chwi, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn caru'r rhai sy'n eu caru hwy.
33. Ac os gwnewch ddaioni i'r rhai sy'n gwneud daioni i chwi, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn gwneud cymaint â hynny.
34. Os rhowch fenthyg i'r rhai yr ydych yn disgwyl derbyn ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed bechaduriaid yn rhoi benthyg i bechaduriaid dim ond iddynt gael yr un faint yn ôl.
35. Nage, carwch eich gelynion a gwnewch ddaioni a rhowch fenthyg heb ddisgwyl dim yn ôl. Bydd eich gwobr yn fawr a byddwch yn blant y Goruchaf, oherwydd y mae ef yn garedig wrth yr anniolchgar a'r drygionus.
36. Byddwch yn drugarog fel y mae eich Tad yn drugarog.
37. “Peidiwch â barnu, ac ni chewch eich barnu. Peidiwch â chondemnio, ac ni chewch eich condemnio. Maddeuwch, ac fe faddeuir i chwi.
38. Rhowch, ac fe roir i chwi; rhoir yn eich côl fesur da, wedi ei wasgu i lawr a'i ysgwyd ynghyd nes gorlifo; oherwydd â'r mesur y rhowch y rhoir i chwi yn ôl.”
39. Adroddodd hefyd ddameg wrthynt: “A fedr y dall arwain y dall? Onid syrthio i bydew a wna'r ddau?
40. Nid yw disgybl yn well na'i athro; ond wedi ei lwyr gymhwyso bydd pob un fel ei athro.
41. Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun?
42. Sut y gelli ddweud wrth dy gyfaill, ‘Gyfaill, gad imi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad di’, a thi dy hun heb weld y trawst sydd yn dy lygad di? Ragrithiwr, yn gyntaf tyn y trawst allan o'th lygad dy hun, ac yna fe weli yn ddigon eglur i dynnu'r brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill.