Hen Destament

Testament Newydd

Luc 6:11-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Ond llanwyd hwy â gorffwylledd, a dechreusant drafod â'i gilydd beth i'w wneud i Iesu.

12. Un o'r dyddiau hynny aeth allan i'r mynydd i weddïo, a bu ar hyd y nos yn gweddïo ar Dduw.

13. Pan ddaeth hi'n ddydd galwodd ei ddisgyblion ato. Dewisodd o'u plith ddeuddeg, a rhoi'r enw apostolion iddynt:

14. Simon, a enwodd hefyd yn Pedr; Andreas ei frawd; Iago, Ioan, Philip a Bartholomeus;

15. Mathew, Thomas, Iago fab Alffeus, a Simon, a elwid y Selot;

16. Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot, a droes yn fradwr.

17. Aeth i lawr gyda hwy a sefyll ar dir gwastad, gyda thyrfa fawr o'i ddisgyblion, a llu niferus o bobl o Jwdea gyfan a Jerwsalem ac o arfordir Tyrus a Sidon, a oedd wedi dod i wrando arno ac i'w hiacháu o'u clefydau;

18. yr oedd y rhai a flinid gan ysbrydion aflan hefyd yn cael eu gwella.

19. Ac yr oedd yr holl dyrfa'n ceisio cyffwrdd ag ef, oherwydd yr oedd nerth yn mynd allan ohono ac yn iacháu pawb.

20. Yna cododd ef ei lygaid ar ei ddisgyblion a dweud:“Gwyn eich byd chwi'r tlodion,oherwydd eiddoch chwi yw teyrnas Dduw.

21. Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn newynog,oherwydd cewch eich digoni.Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn wylo,oherwydd cewch chwerthin.

22. “Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich casáu, yn eich ysgymuno a'ch gwaradwyddo, ac yn dirmygu eich enw fel peth drwg, o achos Mab y Dyn.

23. Byddwch lawen y dydd hwnnw a llamwch o orfoledd, oherwydd, ystyriwch, y mae eich gwobr yn fawr yn y nef. Oherwydd felly'n union y gwnaeth eu hynafiaid i'r proffwydi.

24. “Ond gwae chwi'r cyfoethogion,oherwydd yr ydych wedi cael eich diddanwch.

25. Gwae chwi sydd yn awr wedi eich llenwi,oherwydd daw arnoch newyn.Gwae chwi sydd yn awr yn chwerthin,oherwydd cewch ofid a dagrau.

26. “Gwae chwi pan fydd pawb yn eich canmol, oherwydd felly'n union y gwnaeth eu hynafiaid i'r gau broffwydi.

27. “Ond wrthych chwi sy'n gwrando rwy'n dweud: carwch eich gelynion, gwnewch ddaioni i'r rhai sy'n eich casáu,

Darllenwch bennod gyflawn Luc 6