Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Luc 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Pregethu Ioan Fedyddiwr

1. Yn y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Tiberius Cesar, pan oedd Pontius Pilat yn llywodraethu ar Jwdea, a Herod yn dywysog Galilea, a phan oedd Philip ei frawd yn dywysog tiriogaeth Itwrea a Trachonitis, a Lysanias yn dywysog Abilene,

2. ac yn amser archoffeiriadaeth Annas a Caiaffas, daeth gair Duw at Ioan fab Sachareias yn yr anialwch.

3. Aeth ef drwy'r holl wlad oddi amgylch yr Iorddonen gan gyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau,

4. fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr geiriau'r proffwyd Eseia:“Llais un yn galw yn yr anialwch,‘Paratowch ffordd yr Arglwydd,unionwch y llwybrau iddo.

5. Caiff pob ceulan ei llenwi,a phob mynydd a bryn ei lefelu;gwneir y llwybrau troellog yn union,a'r ffyrdd garw yn llyfn;

6. a bydd y ddynolryw oll yn gweld iachawdwriaeth Duw.’ ”

7. Dywedai wrth y tyrfaoedd oedd yn dod allan i'w bedyddio ganddo: “Chwi epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod?

8. Dygwch ffrwythau gan hynny a fydd yn deilwng o'ch edifeirwch. Peidiwch â dechrau dweud wrthych eich hunain, ‘Y mae gennym Abraham yn dad’, oherwydd rwy'n dweud wrthych y gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn.

9. Ac y mae'r fwyell eisoes wrth wraidd y coed; felly, y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân.”

10. Gofynnai'r tyrfaoedd iddo, “Beth a wnawn ni felly?”

11. Atebai yntau, “Rhaid i'r sawl sydd ganddo ddau grys eu rhannu ag unrhyw un sydd heb grys, a rhaid i'r sawl sydd ganddo fwyd wneud yr un peth.”

12. Daeth casglwyr trethi hefyd i'w bedyddio, ac meddent wrtho, “Athro, beth a wnawn ni?”

13. Meddai yntau wrthynt, “Peidiwch â mynnu dim mwy na'r swm a bennwyd ichwi.”

14. Byddai dynion ar wasanaeth milwrol hefyd yn gofyn iddo, “Beth a wnawn ninnau?” Meddai wrthynt, “Peidiwch ag ysbeilio neb trwy drais neu gamgyhuddiad, ond byddwch fodlon ar eich cyflog.”

15. Gan fod y bobl yn disgwyl, a phawb yn ystyried yn ei galon tybed ai Ioan oedd y Meseia,

16. dywedodd ef wrth bawb: “Yr wyf fi yn eich bedyddio â dŵr; ond y mae un cryfach na mi yn dod. Nid wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandalau ef. Bydd ef yn eich bedyddio â'r Ysbryd Glân ac â thân.

17. Y mae ei wyntyll yn barod yn ei law, i nithio'n lân yr hyn a ddyrnwyd, ac i gasglu'r grawn i'w ysgubor. Ond am yr us, bydd yn llosgi hwnnw â thân anniffoddadwy.”

18. Fel hyn, a chyda llawer anogaeth arall hefyd, yr oedd yn cyhoeddi'r newydd da i'r bobl.

19. Ond gan ei fod yn ceryddu'r Tywysog Herod ynglŷn â Herodias, gwraig ei frawd, ac ynglŷn â'i holl weithredoedd drygionus,

20. ychwanegodd Herod y drygioni hwn at y cwbl, sef cloi Ioan yng ngharchar.

Bedydd Iesu

21. Pan oedd yr holl bobl yn cael eu bedyddio, yr oedd Iesu, ar ôl ei fedydd ef, yn gweddïo. Agorwyd y nef,

22. a disgynnodd yr Ysbryd Glân arno mewn ffurf gorfforol fel colomen; a daeth llais o'r nef: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”

Llinach Iesu

23. Tua deng mlwydd ar hugain oed oedd Iesu ar ddechrau ei weinidogaeth. Yr oedd yn fab, yn ôl y dybiaeth gyffredin, i Joseff fab Eli,

24. fab Mathat, fab Lefi, fab Melchi, fab Jannai, fab Joseff,

25. fab Matathias, fab Amos, fab Nahum, fab Esli, fab Nagai,

26. fab Maath, fab Matathias, fab Semein, fab Josech, fab Joda,

27. fab Joanan, fab Rhesa, fab Sorobabel, fab Salathiel, fab Neri,

28. fab Melchi, fab Adi, fab Cosam, fab Elmadam, fab Er,

29. fab Josua, fab Elieser, fab Jorim, fab Mathat, fab Lefi,

30. fab Simeon, fab Jwda, fab Joseff, fab Jonam, fab Eliacim,

31. fab Melea, fab Menna, fab Matatha, fab Nathan, fab Dafydd,

32. fab Jesse, fab Obed, fab Boas, fab Salmon, fab Nahson,

33. fab Amminadab, fab Admin, fab Arni, fab Hesron, fab Peres, fab Jwda,

34. fab Jacob, fab Isaac, fab Abraham, fab Tera, fab Nachor,

35. fab Serug, fab Reu, fab Peleg, fab Heber, fab Sela,

36. fab Cenan, fab Arffaxad, fab Sem, fab Noa, fab Lamech,

37. fab Methwsela, fab Enoch, fab Jered, fab Maleleel, fab Cenan,

38. fab Enos, fab Seth, fab Adda, fab Duw.