Hen Destament

Testament Newydd

Luc 24:5-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Daeth ofn arnynt, a phlygasant eu hwynebau tua'r ddaear. Meddai'r dynion wrthynt, “Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy'n fyw?

6. Nid yw ef yma; y mae wedi ei gyfodi. Cofiwch fel y llefarodd wrthych tra oedd eto yng Ngalilea,

7. gan ddweud ei bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei draddodi i ddwylo pechaduriaid, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd atgyfodi.”

8. A daeth ei eiriau ef i'w cof.

9. Dychwelsant o'r bedd, ac adrodd yr holl bethau hyn wrth yr un ar ddeg ac wrth y lleill i gyd.

10. Mair Magdalen a Joanna a Mair mam Iago oedd y gwragedd hyn; a'r un pethau a ddywedodd y gwragedd eraill hefyd, oedd gyda hwy, wrth yr apostolion.

11. Ond i'w tyb hwy, lol oedd yr hanesion hyn, a gwrthodasant gredu'r gwragedd.

12. Ond cododd Pedr a rhedeg at y bedd; plygodd i edrych, ac ni welodd ddim ond y llieiniau. Ac aeth ymaith, gan ryfeddu wrtho'i hun at yr hyn oedd wedi digwydd.

13. Yn awr, yr un dydd, yr oedd dau ohonynt ar eu ffordd i bentref, oddeutu un cilomedr ar ddeg o Jerwsalem, o'r enw Emaus.

14. Yr oeddent yn ymddiddan â'i gilydd am yr holl ddigwyddiadau hyn.

15. Yn ystod yr ymddiddan a'r trafod, nesaodd Iesu ei hun atynt a dechrau cerdded gyda hwy,

16. ond rhwystrwyd eu llygaid rhag ei adnabod ef.

17. Meddai wrthynt, “Beth yw'r sylwadau hyn yr ydych yn eu cyfnewid wrth gerdded?” Safasant hwy, a'u digalondid yn eu hwynebau.

18. Atebodd yr un o'r enw Cleopas, “Rhaid mai ti yw'r unig ymwelydd â Jerwsalem nad yw'n gwybod am y pethau sydd wedi digwydd yno y dyddiau diwethaf hyn.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 24