Hen Destament

Testament Newydd

Luc 23:36-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Daeth y milwyr hefyd ato a'i watwar, gan gynnig gwin sur iddo,

37. a chan ddweud, “Os ti yw Brenin yr Iddewon, achub dy hun.”

38. Yr oedd hefyd arysgrif uwch ei ben: “Hwn yw Brenin yr Iddewon.”

39. Yr oedd un o'r troseddwyr ar ei groes yn ei gablu gan ddweud, “Onid ti yw'r Meseia? Achub dy hun a ninnau.”

40. Ond atebodd y llall, a'i geryddu: “Onid oes arnat ofn Duw, a thithau dan yr un ddedfryd?

41. I ni, y mae hynny'n gyfiawn, oherwydd haeddiant ein gweithredoedd sy'n dod inni. Ond ni wnaeth hwn ddim o'i le.”

42. Yna dywedodd, “Iesu, cofia fi pan ddoi i'th deyrnas.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 23