33. Beth am y wraig felly? Yn yr atgyfodiad, gwraig p'run ohonynt fydd hi? Oherwydd cafodd y saith hi'n wraig.”
34. Meddai Iesu wrthynt, “Y mae plant y byd hwn yn priodi ac yn cael eu priodi;
35. ond y rhai a gafwyd yn deilwng i gyrraedd y byd hwnnw a'r atgyfodiad oddi wrth y meirw, ni phriodant ac ni phriodir hwy.
36. Ni allant farw mwyach, oherwydd y maent fel angylion. Plant Duw ydynt, am eu bod yn blant yr atgyfodiad.
37. Ond bod y meirw yn codi, y mae Moses yntau wedi dangos hynny yn hanes y Berth, pan ddywed, ‘Arglwydd Dduw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob’.
38. Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw, oherwydd y mae pawb yn fyw iddo ef.”
39. Atebodd rhai o'r ysgrifenyddion, “Athro, da y dywedaist”,
40. oherwydd ni feiddient mwyach ei holi am ddim.
41. A dywedodd wrthynt, “Sut y mae pobl yn gallu dweud fod y Meseia yn Fab Dafydd?
42. Oherwydd y mae Dafydd ei hun yn dweud yn llyfr y Salmau:“ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i,“Eistedd ar fy neheulaw
43. nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed.” ’
44. “Yn awr, y mae Dafydd yn ei alw'n Arglwydd; sut felly y mae'n fab iddo?”
45. A'r holl bobl yn gwrando, meddai wrth ei ddisgyblion,
46. “Gochelwch rhag yr ysgrifenyddion sy'n hoffi rhodianna mewn gwisgoedd llaes, sy'n caru cael cyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r seddau anrhydedd mewn gwleddoedd,
47. ac sy'n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhagrith yn gweddïo'n faith; fe dderbyn y rhain drymach dedfryd.”