Hen Destament

Testament Newydd

Luc 20:2-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. ac meddent wrtho, “Dywed wrthym trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn, neu pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn.”

3. Atebodd ef hwy, “Fe ofynnaf finnau rywbeth i chwi. Dywedwch wrthyf:

4. bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o'r byd daearol?”

5. Dadleusant â'i gilydd gan ddweud, “Os dywedwn, ‘O'r nef’, fe ddywed, ‘Pam na chredasoch ef?’

6. Ond os dywedwn, ‘O'r byd daearol’, bydd yr holl bobl yn ein llabyddio, oherwydd y maent yn argyhoeddedig fod Ioan yn broffwyd.”

7. Ac atebasant nad oeddent yn gwybod o ble'r oedd.

8. Meddai Iesu wrthynt, “Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 20