Hen Destament

Testament Newydd

Luc 20:18-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. “Pawb sy'n syrthio ar y maen hwn, fe'i dryllir; pwy bynnag y syrth y maen arno, fe'i maluria.”

19. Ceisiodd yr ysgrifenyddion a'r prif offeiriaid osod dwylo arno y pryd hwnnw, ond yr oedd arnynt ofn y bobl, oherwydd gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddameg hon.

20. Gwyliasant eu cyfle ac anfon ysbiwyr, yn rhith pobl onest, i'w ddal ef ar air, er mwyn ei draddodi i awdurdod brawdlys y rhaglaw.

21. Gofynasant iddo, “Athro, gwyddom fod dy eiriau a'th ddysgeidiaeth yn gywir; yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb, ac yn dysgu ffordd Duw yn gwbl ddiffuant.

22. A yw'n gyfreithlon inni dalu treth i Gesar, ai nid yw?”

23. Ond deallodd ef eu hystryw, ac meddai wrthynt,

24. “Dangoswch imi ddarn arian. Llun ac arysgrif pwy sydd arno?” “Cesar,” meddent hwy.

25. Dywedodd ef wrthynt, “Gan hynny, talwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.”

26. Yr oeddent wedi methu ei ddal ar air o flaen y bobl, a chan ryfeddu at ei ateb aethant yn fud.

27. Daeth ato rai o'r Sadwceaid, y bobl sy'n dal nad oes dim atgyfodiad. Gofynasant iddo,

28. “Athro, ysgrifennodd Moses ar ein cyfer, os bydd rhywun farw yn ŵr priod, ond yn ddi-blant, fod ei frawd i gymryd y wraig ac i godi plant i'w frawd.

29. Yn awr, yr oedd saith o frodyr. Cymerodd y cyntaf wraig, a bu farw'n ddi-blant.

30. Cymerodd yr ail

31. a'r trydydd hi, ac yn yr un modd bu'r saith farw heb adael plant.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 20