Hen Destament

Testament Newydd

Luc 20:11-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Anfonodd ef was arall, ond curasant hwn hefyd a'i amharchu, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw.

12. Anfonodd ef drachefn drydydd, ond clwyfasant hwn hefyd a'i fwrw allan.

13. Yna meddai perchen y winllan, ‘Beth a wnaf fi? Fe anfonaf fy mab, yr anwylyd; efallai y parchant ef.’

14. Ond pan welodd y tenantiaid hwn, dechreusant drafod ymhlith ei gilydd gan ddweud, ‘Hwn yw'r etifedd; lladdwn ef, er mwyn i'r etifeddiaeth ddod yn eiddo i ni.’

15. A bwriasant ef allan o'r winllan a'i ladd. Beth ynteu a wna perchen y winllan iddynt?

16. Fe ddaw ac fe ddifetha'r tenantiaid hynny, ac fe rydd y winllan i eraill.” Pan glywsant hyn meddent, “Na ato Duw!”

17. Edrychodd ef arnynt a dweud, “Beth felly yw ystyr yr Ysgrythur hon:“ ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,hwn a ddaeth yn faen y gongl’?

18. “Pawb sy'n syrthio ar y maen hwn, fe'i dryllir; pwy bynnag y syrth y maen arno, fe'i maluria.”

19. Ceisiodd yr ysgrifenyddion a'r prif offeiriaid osod dwylo arno y pryd hwnnw, ond yr oedd arnynt ofn y bobl, oherwydd gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddameg hon.

20. Gwyliasant eu cyfle ac anfon ysbiwyr, yn rhith pobl onest, i'w ddal ef ar air, er mwyn ei draddodi i awdurdod brawdlys y rhaglaw.

21. Gofynasant iddo, “Athro, gwyddom fod dy eiriau a'th ddysgeidiaeth yn gywir; yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb, ac yn dysgu ffordd Duw yn gwbl ddiffuant.

22. A yw'n gyfreithlon inni dalu treth i Gesar, ai nid yw?”

23. Ond deallodd ef eu hystryw, ac meddai wrthynt,

24. “Dangoswch imi ddarn arian. Llun ac arysgrif pwy sydd arno?” “Cesar,” meddent hwy.

25. Dywedodd ef wrthynt, “Gan hynny, talwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.”

26. Yr oeddent wedi methu ei ddal ar air o flaen y bobl, a chan ryfeddu at ei ateb aethant yn fud.

27. Daeth ato rai o'r Sadwceaid, y bobl sy'n dal nad oes dim atgyfodiad. Gofynasant iddo,

Darllenwch bennod gyflawn Luc 20