Hen Destament

Testament Newydd

Luc 18:25-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Oherwydd y mae'n haws i gamel fynd i mewn trwy grau nodwydd nag i'r cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw.”

26. Ac meddai'r gwrandawyr, “Pwy ynteu all gael ei achub?”

27. Atebodd yntau, “Y mae'r hyn sy'n amhosibl gyda dynion yn bosibl gyda Duw.”

28. Yna dywedodd Pedr, “Dyma ni wedi gadael ein heiddo a'th ganlyn di.”

29. Ond meddai ef wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych nad oes neb a adawodd dŷ neu wraig neu frodyr neu rieni neu blant, er mwyn teyrnas Dduw,

30. na chaiff dderbyn yn ôl lawer gwaith cymaint yn yr amser hwn, ac yn yr oes sy'n dod fywyd tragwyddol.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 18