Hen Destament

Testament Newydd

Luc 15:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Ac wedi dod o hyd iddo, y mae'n gwahodd ei chyfeillesau a'i chymdogion ynghyd, gan ddweud, ‘Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'r darn arian a gollais.’

10. Yr un modd, rwy'n dweud wrthych, y mae llawenydd ymhlith angylion Duw am un pechadur sy'n edifarhau.”

11. Ac meddai, “Yr oedd dyn a chanddo ddau fab.

12. Dywedodd yr ieuengaf ohonynt wrth ei dad, ‘Fy nhad, dyro imi'r gyfran o'th ystad sydd i ddod imi.’ A rhannodd yntau ei eiddo rhyngddynt.

13. Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, wedi newid y cwbl am arian, ymfudodd y mab ieuengaf i wlad bell, ac yno gwastraffodd ei eiddo ar fyw'n afradlon.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 15