8. “Neu bwriwch fod gan wraig ddeg darn arian, a digwydd iddi golli un darn; onid yw hi'n cynnau cannwyll ac yn ysgubo'r tŷ ac yn chwilio'n ddyfal nes dod o hyd iddo?
9. Ac wedi dod o hyd iddo, y mae'n gwahodd ei chyfeillesau a'i chymdogion ynghyd, gan ddweud, ‘Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'r darn arian a gollais.’
10. Yr un modd, rwy'n dweud wrthych, y mae llawenydd ymhlith angylion Duw am un pechadur sy'n edifarhau.”
11. Ac meddai, “Yr oedd dyn a chanddo ddau fab.
12. Dywedodd yr ieuengaf ohonynt wrth ei dad, ‘Fy nhad, dyro imi'r gyfran o'th ystad sydd i ddod imi.’ A rhannodd yntau ei eiddo rhyngddynt.
13. Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, wedi newid y cwbl am arian, ymfudodd y mab ieuengaf i wlad bell, ac yno gwastraffodd ei eiddo ar fyw'n afradlon.
14. Pan oedd wedi gwario'r cyfan, daeth newyn enbyd ar y wlad honno, a dechreuodd yntau fod mewn eisiau.
15. Aeth ac ymlynu wrth un o ddinasyddion y wlad, ac anfonodd hwnnw ef i'w gaeau i ofalu am y moch.
16. Buasai'n falch o wneud pryd o'r plisg yr oedd y moch yn eu bwyta; ond nid oedd neb yn cynnig dim iddo.
17. Yna daeth ato'i hun a dweud, ‘Faint o weision cyflog sydd gan fy nhad, a phob un ohonynt yn cael mwy na digon o fara, a minnau yma yn marw o newyn?
18. Fe godaf, ac fe af at fy nhad a dweud wrtho, “Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di.
19. Nid wyf mwyach yn haeddu fy ngalw'n fab iti; cymer fi fel un o'th weision cyflog.” ’
20. Yna cododd a mynd at ei dad. A phan oedd eto ymhell i ffwrdd, gwelodd ei dad ef. Tosturiodd wrtho, rhedodd ato, a rhoes ei freichiau am ei wddf a'i gusanu.