Hen Destament

Testament Newydd

Luc 15:3-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. A dywedodd ef y ddameg hon wrthynt:

4. “Bwriwch fod gan un ohonoch chwi gant o ddefaid, a digwydd iddo golli un ohonynt; onid yw'n gadael y naw deg a naw yn yr anialdir ac yn mynd ar ôl y ddafad golledig nes dod o hyd iddi?

5. Wedi dod o hyd iddi y mae'n ei gosod ar ei ysgwyddau yn llawen,

6. yn mynd adref, ac yn gwahodd ei gyfeillion a'i gymdogion ynghyd, gan ddweud wrthynt, ‘Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'm dafad golledig.’

7. Rwy'n dweud wrthych, yr un modd bydd mwy o lawenydd yn y nef am un pechadur sy'n edifarhau nag am naw deg a naw o rai cyfiawn nad oes arnynt angen edifeirwch.

8. “Neu bwriwch fod gan wraig ddeg darn arian, a digwydd iddi golli un darn; onid yw hi'n cynnau cannwyll ac yn ysgubo'r tŷ ac yn chwilio'n ddyfal nes dod o hyd iddo?

9. Ac wedi dod o hyd iddo, y mae'n gwahodd ei chyfeillesau a'i chymdogion ynghyd, gan ddweud, ‘Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'r darn arian a gollais.’

10. Yr un modd, rwy'n dweud wrthych, y mae llawenydd ymhlith angylion Duw am un pechadur sy'n edifarhau.”

11. Ac meddai, “Yr oedd dyn a chanddo ddau fab.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 15